YMGYNGHORI BUSNES
Gonest, Cefnogol, Ysbrydoledig
Marian is a joy to work with – she has infectious energy, dynamism and passion; exceptional professional skill in group and leadership development; and a focus on delivering a bespoke, tailored service that is second to none.
Adrian Crompton Auditor General Wales. Wales Audit Office.
Elevate BC
- Mae Elevate BC yn cynnig gwasanaeth Ymgynghori Busnes, Hwyluso, Coetsio a Mentora Swyddogion Gweithredol, ynghyd â Hyfforddiant a Datblygiad ym maes Arweinyddiaeth. Yn cefnogi Unigolion a Busnesau i ddatblygu hyd eithaf eu potensial a chael y budd pennaf o’r buddion o fuddsoddi.
“Boed i chi fod yn ddigon cryf i sefyll ar eich pen eich hun, yn ddigon medrus i wybod pan fod arnoch angen cymorth, ac yn ddigon dewr i ofyn amdano”
Hyfforddiant Arweinyddiaeth
Mae Elevate BC yn cynnig rhaglenni Hyfforddi Arweinyddiaeth (dwyieithog yn ôl yr angen) wedi’u teilwra at anghenion ein cleientiaid. Ceir enghraifft o’r cynnwys isod:
MwyCoetsio a Mentora Swyddogion Gweithredol
A hithau’n Gymrawd o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mae Marian, a thîm cyswllt o Goetswyr a Mentoriaid Swyddogion Gweithredol cymwys, yn gweithio gyda Rheolwyr Gyfarwyddwyr, Cyfarwyddwyr Byrddau ac unigolion sydd â’u bryd ar ddod yn swyddogion gweithredol ledled y DU.
MwyYmgynghori Busnes
Mae Elevate BC yn cynnig cyngor ar strategaeth a strwythur busnes, ynghyd â chyngor ar y modd y mae’n cael ei reoli a’i roi ar waith.
Mwy